#

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-0763

Teitl y ddeiseb: Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau

Testun y ddeiseb: Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Gynulliad Cymru adolygu’r cyngor a roddir ynghylch gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac mewn llenyddiaeth marchnata. Ar hyn o bryd mae hyn wedi’i seilio ar ganllawiau FAST - Face, Arms, Speech, Time - sy’n annog pobl i ystyried yr wyneb, y breichiau, y lleferydd ac amser. Gall strôc effeithio ar rannau o’r ymennydd nad ydynt yn gyfrifol am unrhyw un o’r swyddogaethau hynny, felly dylid hefyd ystyried cydbwysedd a llygaid (Balance, Eyes) i unioni hynny. ​

Daeth yr anaf i fy ymennydd i, a ddangosodd fy mod wedi cael strôc cerebelar, i’r amlwg yn ddamweiniol pan gefais MRI am reswm arall. Roedd hyn yn esbonio’r fertigo sydyn a ddaeth drosof flwyddyn ynghynt. Pe bai’r gweithwyr meddygol proffesiynol amrywiol a welais bryd hynny wedi sylweddoli mai dyna oedd yn bod, gallwn fod wedi cael triniaeth ar gyfer strôc yn syth ac mae’n bosibl na fyddai fy ymennydd wedi’i niweidio i’r fath raddau. Pe bawn i, fel aelod o’r cyhoedd, yn gwybod am BEFAST, byddwn wedi deall pa mor beryglus oedd fy symptomau  Mae Prifysgol Stanford wedi bod yn ein cynghori i ddefnyddio canllawiau BEFAST ers blynyddoedd: http://scopeblog.stanford.edu/2014/05/02/be-fast-learn-to-recognize-the-signs-of-stroke/                                                                                                 

 

Cefndir

Mae strôc yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o ymennydd person yn cael ei dorri. Gall hyn fod o ganlyniad i rwystr (a elwir yn strôc isgemig, sy’n gyfrifol am tua 85 y cant o achosion) neu gan waedu yn yr ymennydd neu o amgylch iddo (strôc waedlifol, sy’n gyfrifol am tua 15 y cant o achosion).

Mae TIA (pwl o isgemia dros dro neu ‘transient ischaemic attack’, y cyfeirir ato weithiau fel ‘mân strôc’) yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal am gyfnod byr iawn. Mae symptomau TIA yn debyg iawn i symptomau strôc, ond nid ydynt ond yn para dros dro, yn llai na 24 awr. Fodd bynnag, mae TIA yn rhybudd bod yna broblemau o ran y cyflenwad gwaed i’r ymennydd, ac mae’n gysylltiedig â risg uchel iawn o gael strôc yn y mis cyntaf a hyd at flwyddyn ar ôl cael y pwl.

Bob blwyddyn, mae tua 7,400 o bobl yng Nghymru yn cael strôc (gan gynnwys TIA). Mae’r tebygolrwydd y bydd claf yn gwella’n llwyddiannus yn dilyn strôc yn dibynnu’n fawr ar yr amser rhwng yr arwydd cyntaf o symptomau a’r claf yn cael triniaeth. Gan y bydd 95 y cant o’r rhai sy’n cael strôc aciwt yn dioddef y symptomau cyntaf y tu allan i’r ysbyty, mae sicrhau bod y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu adnabod symptomau strôc yn gyflym yn hanfodol i wella canlyniadau i gleifion.

Mae’r Gymdeithas Strôc yn rhestru rhai o symptomau cyffredin strôc fel a ganlyn:

(er enghraifft, braich neu goes lipa, neu amrant isaf neu’r geg yn hongian yn llipa);

 

FAST (Face-Arms-Speech-Time)

Mae’r ymgyrch ‘Act FAST’ wedi bod yn rhedeg yng Nghymru a Lloegr ers 2009, ac fe’i hyrwyddir gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys GIG Cymru a’r Gymdeithas Strôc. Nod yr ymgyrch yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau strôc, ac o bwysigrwydd ffonio 999 ar unwaith mewn ymateb i unrhyw un o’r symptomau hyn. Mae’r ymgyrch yn gwneud hyn drwy hyrwyddo’r acronym FAST:

Datblygwyd FAST yn y DU ym 1998 fel modd syml o adnabod strôc, i’w ddefnyddio’n bennaf gan staff ambiwlans. Nid yw’r prawf yn ceisio nodi diffygion maes gweledol neu broblemau gyda chanfyddiad, cydbwysedd na chydsymud, felly gall fod yn gymharol ansensitif i anafiadau mewn rhai rhannau o’r ymennydd. Fodd bynnag, wrth ddatblygu FAST, teimlwyd y byddai gwneud y prawf yn fwy cymhleth yn ymestyn amser asesu parafeddyg, a allai gynyddu cyfran y canlyniadau positif anghywir heb gynyddu sensitifrwydd yr offeryn ryw lawer[1].

Cafodd y ffaith na fydd rhai symptomau strôc yn cael eu cwmpasu gan FAST ei gydnabod gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr yn ei ganllaw clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc 2016. Fodd bynnag, mae’r canllaw yn mynd ymlaen i ddweud y bydd angen rhagor o dystiolaeth cyn y gall yr awduron argymell y dylid defnyddio offer sgrinio eraill[2] i nodi symptomau nad ydynt yn rhan o ddull FAST yn y cyfnod cyn mynd i’r ysbyty. Cyngor yr awduron yw y dylai clinigwyr yn y gymuned, os ydynt yn amau’r diagnosis yn dilyn prawf FAST negyddol, barhau i drin y person fel rhywun sydd wedi cael strôc hyd nes y bydd clinigwr strôc arbenigol yn gwneud diagnosis i’r gwrthwyneb.

 

BEFAST (Balance-Eyes-Face-Arms-Speech-Time) – Cydbwysedd, llygaid, yr wyneb, breichiau, lleferydd ac amser.

Mae’r ddeiseb hon yn ceisio rhoi dull BEFAST (neu BE FAST) yn lle dull FAST fel y cyngor safonol ar gyfer adnabod strôc er mwyn cynnwys dau symptom arall o strôc:

Fel y nododd y deisebydd, mae Prifysgol Stanford ar hyn o bryd yn hyrwyddo acronym BEFAST i nodi symptomau strôc. Mae sefydliadau eraill yn yr Unol Daleithiau hefyd wedi symud tuag at ddefnyddio dull BEFAST yn hytrach na FAST, fel Pennsylvania State University a University of Texas Southwestern Medical Center.

Ar y llaw arall, mae Cymdeithas y Galon America/Cymdeithas Strôc America yn cytuno â’r Gymdeithas Strôc (DU) wrth argymell defnyddio dull FAST, gan restru problemau o ran cydbwysedd a golwg ymhlith symptomau strôc ychwanegol. 

 

Gwybodaeth ychwanegol

Cafodd deiseb debyg ei chyflwyno i wasanaeth deisebau Senedd y DU, ond fe’i caewyd yn gynnar oherwydd Etholiad Cyffredinol 2017 (ni fydd yn ail-agor ar ôl yr etholiad, ond gellir cyflwyno deiseb newydd).

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i leihau’r risg o strôc yn 2011/12. Gan fod yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar ostwng risg yn hytrach nag adnabod strôc, nid yw’r adroddiad terfynol ond yn sôn am FAST fel enghraifft o ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus lwyddiannus, ac nid yw’n trafod rhinweddau neu ddiffygion y system FAST ei hun.



[1]Cyfieithiad o J. Harbison et al., Diagnostic Accuracy o Stroke Referrals From Primary Care, Emergency Room Physicians and Ambulance Staff Using the Face Arm Speech Test, Stroke. 2003;34:71-76.

[2] Rhoddir dwy enghraifft o offer sgrinio eraill o’r fath: (i) Fersiynau o Raddfa Strôc y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd (NIHSS); a (ii) Nodi Strôc yn yr Ystafell Frys (Recognition of Stroke in the Emergency Room - ROSIER); Nid yw BEFAST cael ei grybwyll yn benodol.